Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Medi 2021
Amser:
09.30 -
12.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12422
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Lindsay Foyster, Archwilio Cymru Kevin Thomas, Archwilio Cymru Ann-Marie Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes: Amserlen y pwyllgorau – 14 Gorffennaf 2021
2.2 PTN 2 – Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru 2022-23 – 16 Gorffennaf 2021
2.3 PTN 3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig ar gyfer is-ddeddfwriaeth – 1 Gorffennaf 2021
2.4 PTN 4 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Trafodiadau Tir – Adolygiad annibynnol – 28 Gorffennaf 2021
2.5 PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth ychwanegol am symiau canlyniadol Barnett a chymorth busnes – 19 Gorffennaf 2021
2.6 PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod Pedrochrog y Gweinidogion Cyllid ar 20 Gorffennaf – 14 Medi 2021
2.7 PTN 7 – Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Ymateb Llywodraeth Cymru – 23 Awst 2021
2.8 PTN 8 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Datganiad o egwyddorion i gyrff a ariennir yn uniongyrchol – 2 Awst 2021
2.9 PTN 9 – Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd: Goruchwyliaeth ariannol y Comisiwn Etholiadol – 9 Medi 2021
2.10PTN 10 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Blaenoriaethau plant a phobl ifanc ar gyfer y Chweched Senedd – 20 Gorffennaf 2021
2.11PTN 11 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Cydweithio rhwng pwyllgorau yn y Chweched Senedd – 10 Awst 2021
3 Sesiwn ragarweiniol gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:
· y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb a'r rôl ehangach y gall ei chwarae o ran ystyried proses y gyllideb;
· nodyn ar sut y bydd y cyllid canlyniadol a fydd yn deillio o’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol yn llifo i gyllideb Llywodraeth Cymru.
Egwyl (10.30 – 10.40)
4 Goruchwylio Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21 a Chynllun Blynyddol 2021-22: Sesiwn dystiolaeth
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, a swyddogion Archwilio Cymru.
4.2 Cadeiriodd Peter Fox AS ran o’r eitem dros dro oherwydd materion technegol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
4.3 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu'r canlynol:
· nodyn ar y cynllun strategol 5 mlynedd sy'n cael ei ddatblygu er mwyn blaenoriaethu prif bwyntiau’r broses o drawsnewid y sefydliad.
· nodyn ar yr adolygiad o bolisïau teithio a chynhaliaeth.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Goruchwylio Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21 a Chynllun Blynyddol 2021-22: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Sesiwn ragarweiniol gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft
8.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol.